Amdanom Ni
| Roedd William Mathias (1934-1992) yn un o gyfansoddwyr enwocaf Cymru, ac enwyd y Ganolfan er cof amdano. |
CYFARWYDDWYR A DIGWYDDIADAU
Sefydlwyd Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon ym 1999 gan Gwmni cyfyngedig dan warant gyda Statws Elusennol ac fe'i rheolir gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr o dan gadeiryddiaeth Dafydd Whittall. Aelodau eraill y Bwrdd yw : Angharad Annwyl, Rhiannon Mathias, Howel Roberts, Marian Wyn Jones, Ann Marston, David Joyner, Wynne Roberts, Geraint Davies, Judith Humphries ac Elinor Bennett. Meinir Llwyd Jones yw'r Gweinyddydd gyda chymorth gan Mari Roberts. Howel Roberts (cyn-reolwr Banc Midland) yw'r Cyfarwyddwr Ariannol.
Ariannir y Ganolfan gan grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyfraniadau gan Cyfeillion y Ganolfan.
Yn 2003 apwyntwyd Elinor Bennett yn Gyfarddydd Artistig, ac yng Ngwanwyn 2005 ail-leolwyd Canolfan Gerdd William Mathias i'r Ganolfan Mentrau Greadigol Newydd, Galeri, yn Doc Fictoria, Caernarfon.
Gwaith Craidd y Ganolfan yw hyfforddiant offerynnol a lleisiol ar gyfer pob oed, yn ogystal a gweithdai a chyrsiau amrywiol. Mae dros 300 o fyfyrwyr rhwng 2 a 75 oed yn mynychu'r Ganolfan yn wythnosol a 30 o diwtoriaid yn cynnig hyfforddiant ar amrywiaeth o offerynnau a llais.

Trefnir Dosbarthiadau Meistr ac, yn y gorffennol, bu cerddorion enwog megis Ingrid Surgenor, Gareth Roberts, Iwan Llywelyn Jones, Skaila Kanga a Mary Lloyd Davies yn cynnal dosbarthiadau.
Dwy fenter newydd sy'n profi'n llwyddiant mawr yw'r Dosbarthiadau Theori a Sain Clust, gyda Siân Wheway, a'r Dosbarthiadau Cerddoriaeth Greadigol (Doniau Cudd) gydag Arfon Wyn.
Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias (sydd yn gyfrifol am wersi offerynnol a lleisiol peripatetig yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych) o dan reolaeth Dennis Williams, hefyd wedi ei leoli yn Galeri, Caernarfon.

Noddwraig: Yvonne Mathias
Llywydd Anrhydeddus: Bryn Terfel
Cyfarwyddydd Artistig: Sioned Webb
Gweinyddydd: Meinir Llwyd Jones
Cynorthwydd: Mari Roberts
|