Canolfan Gerdd William Mathias Canolfan Gerdd William Mathias, Stryd Yr Eglwys, Caernarfon
Canolfan Gerdd William Mathias - Hafan
 
Ynglyn a'r Ganolfan
 
Athrawon y Ganolfan
 
Digwyddiadau
 
Cainc y Ganolfan
 
Newyddion y Ganolfan
 
Cyfeillion y Ganolfan
 
Dolennau
 
Cysylltu
 
 
 

Digwyddiadau

DIGWYDDIADUR.....

 

Chwefror 20fed Cwrs i athrawon canu gyda Marian Bryfdir, fel rhan o raglen Dysgu Gydol Oes Coleg Prifysgol Cymru Bangor. Cwrs 10 wythnos, nos Fercher 7-9 o'r gloch. Am fwy o fanylion cysylltwch â swyddfa Dysgu Gydol Oes ar 01248 382708 neu e-bostiwch nhw ar ll@bangor.ac.uk

Ebrill 9fed Dosbarthiadau theori a sain clust yn ail-gychwyn ar ôl y gwyliau, yn cynnwys y dosbarth newydd i'r rhai sydd yn cychwyn theori am y tro cynta. Anogwn bawb i ddod i’r dosbarthiadau yma. Mae dysgu rhywfaint o theori yn help i chwarae unrhyw offeryn, ac mae’n angenrheidiol pasio’r Gradd 5 theori os fyddwch eisiau mynd ymhellach na’r Gradd 5 efo unrhyw offeryn. Felly mae’n syniad da dechrau’n fuan! Mae’r gwersi yma’n cynnwys elfen o sain clust hefyd sy’n helpu gyda ’r profion yma sy’n rhan bwysig o’r arholiadau ymarferol.
Bydd 10 dosbarth yn ystod y tymor gyda thoriad dros yr wythnos hanner tymor. A’r pris ydi £55 am y tymor.

Mai 18fed Llwyfan Cerdd Roc / Pop a Jazz. Cyngerdd anffurfiol, yn benodol ar gyfer myfyrwyr sydd yn astudio arddulliau roc / pop a jazz, i roi cyfle i'r myfyrwyr berfformio mewn awyrgylch cyfeillgar ac anghystadleuol. Prynhawn Sul 3pm - Stiwdio 2. Tocynnau: £4 / £3 plant

Mehefin 12fed Cyngerdd Haf y Ganolfan. Dewch i glywed rhai o fyfyrwyr ac ensembles y Ganolfan yn perfformio rhaglen ddiddorol ac amrywiol, o'r clasurol i'r cyfoes. Theatr Galeri, 7pm

Mehefin 14eg Ymarfer misol y Gerddorfa Gymunedol. A fuoch chi'n chwarae offeryn rywdro ond bellach wedi rhoi'r ffidil yn y to? A hoffech chwarae mewn cerddorfa eto? Mae'r gerddorfa hwn yn agored i bawb sy'n dymuno dod â'u hofferynnau i chwarae cerddoriaeth yn amrywio o'r clasurol i fiwsig y ffilm! Arweinydd : Bill Connor. Bore Sadwrn, 10am - 1pm, yn Canolfan Bro Llanwnda. Mwy o fanylion ar ein tudalen newyddion.

Mehefin 14eg Ein Grwp Jazz gyda Marie-Claire Howorth mewn gweithdy yng Ngwyl Jazz Abersoch gyda Huw Warren, 12 - 1.30pm

Gorffennaf 5ed Ein Clwb Alawon gyda Neil Browning yn chwarae yng Ngwyl y Felin, Felinheli

Gorffennaf 6ed Llwyfan Cerdd. Cyngerdd anffurfiol i roi cyfle i fyfyrwyr y Ganolfan berfformio mewn awyrgylch cyfeillgar ac anghystadleuol. Prynhawn Sul 3pm - Stiwdio 2. Tocynnau: £4 / £3 plant

Gorffennaf 20fed Cei Llawn Cyffro. Difyrrwch cerddorol dwyieithog gyda blas morwrol y 20’au gan y cyfansoddwr Bil Efans, cyfarwyddydd Marian Bryfdir. Bydd y cast yn cynnwys cantorion cwmni Pobl yr Opera a chantorion ifanc yn dilyn y cwrs opera 3-diwrnod. Dewch yn gyntaf (os yw’r tywydd yn ffafriol) i gyfarfod y cwch wrth y Ferry Slip (Marina) Caernarfon am 7.15pm a dilyn gorymdaith liwgar i theatr Galeri lle bydd y perfformiad yn cychwyn am 8pm. Adloniant amrywiol hefyd ym mar Doc a thu allan. Beth am wisgo dillad y 20’au i gydfynd â’r achlysur?

Tocynnau i'r perfformiad yn theatr Galeri: £10, £5 plant.
Tocynnau hefyd ar gael o'n swyddfa ni ar gyfer mordaith ar y cwch cyn y perfformiad gyda rhai o’r cast.
Cychwyn o’r Pier, Caernarfon, tua 6.30pm.
Mwy o fanylion am y fordaith ar gael o'r swyddfa.

Awst 17eg Cyfarfod y Clwb Alawon Traddodiadol misol efo Neil Browning. Croeso i unrhyw un sydd eisiau dysgu alawon traddodiadol ar unrhyw offeryn. Prynhawn Sul, 2-4pm.

Medi 13eg Cyngerdd Taro Nodyn gyda’r Tiwtoriaid. Ond nid unrhyw diwtoriaid! Cyngerdd gan enwau megis Elinor Bennett, Mary Lloyd Davies, Iwan Llewelyn-Jones a Dewi Ellis Jones. Artistiaid rhyngwladol i’ch diddanu ar y lefel uchaf un, a chyfle i fyfyrwyr y Ganolfan Gerdd glywed eu tiwtoriaid yn perfformio. Nos Sadwrn 7.30pm. Tocynnau £10 oedolion/ £5 i blant a myfyrwyr CGWM