Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias
Rhif Cofrestredig Elusennol 1094472
Sefydlwyd Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias ym 1997. Yn y flwyddyn 2002 fe`i sefydlwyd fel Elusen Gofrestredig gyda`r bwriad o “ddyrchafu addysg gyhoeddus yn myd cerdd, dawns, drama, barddoniaeth, teledu a ffilm, yn neilltuol, ond ddim yn gyfyngedig, trwy gynorthwyo gwaith elusennol Canolfan Gerdd William Mathias ac elusennau eraill a sefydlwyd i`r un bwriad yng ngogledd Cymru.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias sydd wedi ei leoli yn Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, yn ganolbwynt grymus i gerddoriaeth o bob math. Mae'n darparu hyfforddiant o radd uchel i ddechreuwyr, hyd at lefel broffesiynol, ac yn cynnig cyfle i`r gymdeithas gyfan ddatblygu eu potensial cerddorol. Yn bresennol mae tua 350 o fyfyrwyr yn derbyn hyfforddiant unigol cyson ar offerynnau neu mewn llais, gan oddeutu 30 o athrawon profiadol. Yn ychwanegol i hyn ceir dosbarthiadau mewn cerdd cyffredinol, dosbarthiadau arbennig i`r rhai ag anableddau dysgu, clybiau gwrando i oedolion, cerddoriaeth siambr, a dosbarthiadau meistr gan gerddorion amlwg. Yn ogystal ceir gweithdai, a chyngherddau anffurfiol i`r cyhoedd, er mwyn rhoi profiad i`r myfyrwyr mewn perfformio o flaen cynulleidfa. Hyn i gyd mewn awyrgylch positif a chyfeillgar.
Mae`r Cyfeillion yn cefnogi gwaith y Ganolfan yn ariannol, trwy roi grantiau cyson i'r Ganolfan, trwy Gronfa Offerynau Cerdd Mary Costello, a thrwy'r Gronfa Bwrsari newydd. Mae maint ein cyfraniad yn dibynnu yn hollol ar faint ein aelodaeth, eu tanysgrifau a`u rhoddion ariannol, a`r arian a godir o`n digwyddiadau.
Mae`r Cyfeillion hefyd yn cefnogi perfformiadau`r myfyrwyr, yn enwedig yn Galeri, ac yn cynorthwyo o dro i dro fel stiwardiaid yn y digwyddiadau, ac mewn ffyrdd ymarferol eraill.
Bob blwyddyn mae`r Cyfeillion yn trefnu digwyddiadau arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys ymweliadau, er engraifft, â Neuadd Bridgewater, ym Manceinion, perfformiadau gan gerddorion blaenllaw a digwyddiadau cymdeithasol. Bydd manylion ein digwyddiadau i`w cael o dan “Digwyddiadau`r Cyfeillion”.
Mae angen mwy o Gyfeillion er mwyn cynnal a chynyddu lefel ein cefnogaeth ariannol o £5000 y flwyddyn o leiaf.
Trwy ymaelodi â`r Cyfeillion byddwch yn cefnogi adnoddau dysgu cerdd o safon uchel yng Ngogledd Cymru. Fel aelod cewch eich hysbysu o flaen llaw o`n digwyddiadau cerddorol, a blaenoriaeth pan yn archebu tocynnau. Cewch hefyd hysbys cyson ar weithgareddau`r Ganolfan Gerdd. Cewch hefyd bleser di-bendraw.
Ceir ffurflen gais aelodaeth a ffurflen datganiad rhodd-gymorth ynghlwm isod y gellir eu lawrlwytho, neu cysylltwch â Chris Bate, Bryn-y-Mor, Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2HG, ( 01248 372395), am ffurflen gais.
Cliciwch yma am Ffurflen Aelodaeth y Cyfeillion
Digwyddiadau`r Cyfeillion
Dydd Gwener 7fed Mawrth 2008 - Cyfarfod Cyffredinol y Cyfeillion a Chyngerdd. Cyn ein Cyfarfod Cyffredinol bydd cyngerdd byr gan rai o fyfyrwyr Canolfan Gerdd William Mathias. Mynediad am ddim.
Dydd Sadwrn 14eg Mehefin 2008 - Miwsig yn yr Ardd. Cerddoriaeth gan rai o fyfyrwyr y Ganolfan Gerdd. Tan Pentre Mawr, Llangoed 2pm - 5pm, trwy ganiatad caredig Dr a Mrs Meurig Hughes. Stondinau cynnyrch a phlanhigion. Mynediad £3, plant £1, Te a theisen £2. Yr elw tuag at y Cyfeillion ac Eglwysi Plwyf Biwmares.
Digwyddiadau eraill yn 2008 yn cynnwys :
Hydref - Parti Gwin a Chaws, yn cynnwys Cyngerdd Myfyrwyr
Rhagfyr 7fed - Parti Nadolig |