CROESO
Beth all Canolfan Gerdd William Mathias ei gynnig?
Gwersi unigol ar ystod eang o offerynnau gan athrawon o'r radd flaenaf e.e:
• Fidil • Piano • Soddgrwth • Offerynnau chwythbren a phres •
• Telyn (pedal, celtaidd a theires) • Gitar • Drymiau • Llais (clasurol, gwerin, jazz a pop) •
• Offerynnau gwerin yn cynnwys Accordion •
• Cyfle i berfformio a chymryd rhan mewn gweithgareddau arbennig •
• Camau Cyntaf Cerdd•
Cyrsiau cerdd yn ystod y dydd ar gyfer plant 18 mis - 3 oed gyda'u rhieni / gofalwyr
• Doniau Cudd •
Cerddoriaeth i oedolion ag anableddau dysgu
• Band Jazz i blant, a Cherddorfa Gymunedol i Oedolion •
• Grwp opera wythnosol - Pobl yr Opera •
• Cyrsiau a Dosbarthiadau Meistr amrywiol •
Llais, Piano, Telyn, Ffidil, Clarinet, Piano, Cello, Jazz, Gwerin a.y.y.b
• Cyrsiau wythnosol mewn theori, sain y glust a sol-ffa •
• Therapi Cerdd •
• Ysgol Roc a Jazz mewn cyd-weithrediad a Chwmni Tref Caernarfon •
Bod yn rhan o Ganolfan Gerdd sy'n llawn bywyd a brwdfrydedd,
ac mewn awyrgylch braf a lliwgar
• Ystafelloedd Ymarfer Gwych ar gael i'w llogi •
• Ystafelloedd ymarfer i unigolion a grwpiau bychain ar gael i'w llogi am bris rhesymol iawn. Pob un yn 'sound-proof', gyda piano newydd (Yamaha neu Kawai) ym mhob un.
• Lleoliad delfrydol i gerddorion sy'n dymuno ymarfer tra'n mwynhau'r manteision o dreulio amser yn un o'r ardaloedd hardda ym Mhrydain, ger y môr a Parc Cenedlaethol Eryri.
• Golygfeydd gwych o'r ystafelloedd, sy'n edrych allan dros y Fenai, yn nhref hanesyddol Caernarfon.

Noddwraig: Yvonne Mathias
Llywydd Anrhydeddus: Bryn Terfel
Cyfarwyddydd Artistig: Sioned Webb
Gweinyddydd: Meinir Llwyd Jones
Cynorthwydd: Mari Roberts
|