Newyddion

Opera Newydd
Cei Llawn Cyffro
gan Bil Efans
Cyfarwyddydd Marian Bryfdir
Difyrrwch cerddorol dwyieithog gyda blas morwrol y 20’au gan y cyfansoddwr lleol Bil Efans.
Nos Sul 20/07/08
Mae’r stori wedi ei leoli mewn tref Glan Mor yn y 1920au ble mae’r maer a chynghorwyr y dref, a thorf o’r trefolion yn cyfarfod a’r cwch HMS Galeri, sy’n dod i mewn i’r harbwr. Mae’r cast yn cynnwys cantorion grwp opera preswyl y Ganolfan Gerdd, Pobl yr Opera, ynghyd a chantorion ifanc yn dilyn y cwrs opera 3 diwrnod, i gantorion rhwng 10 ac 18 oed, fydd yn rhag-flaenu’r perfformiad.
Dewch i ddechrau’r noson drwy gyfarfod y cwch wrth y Ferry Slip (Marina) Caernarfon tua 7.15pm a dilyn yr orymdaith liwgar i Galeri, a mwynhau’r adloniant amrywiol fydd ym mar Doc ac allan ar y cei, cyn y perfformiad ei hun yn y Theatr am 8pm. Gwahoddwn unrhywun sy’n gallu i ymuno a ni mewn gwisgo yn steil y 1920 am yr achlysur! Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i gerdded gyda ni yn yr orymdaith, ac hyd yn oed i gymryd rhan yn yr olygfa torf yn yr Opera ei hun!
Darganfyddwch eich hoff gymeriad o’r 1920... Fel pwy y gwelwch eich hun: Gweinidog Capel, Perchenog Chwarel Lechi, Bachgen cludo neges gyda’i feic, Merch gwerthu blodau, Grwp o ferched o’r Gymdeithas Ddirwest gyda’u baner, neu Ferched Crand – teithwyr wedi dod oddi ar yr HMS Galeri ...
Rydym hefyd yn dal i chwilio am ddillad merched a dynion o’r 20au – oes gennych chi rywbeth allai fod yn addas? A pethau fel bagiau teithio hen fashiwn, bocsys hetiau neu gistiau tun i deithwyr yr HMS Galeri. Cysylltwch a ni os oes gennych unrhywbeth fyddech chi’n hapus i ni fenthyg.
Tocynnau i’r perfformiad yn y Theatr a’r adloniant ymylol £10 (Plant £5) ar gael o Swyddfa Docynnau Galeri.
Tocynnau hefyd ar gael, o’n Swyddfa ni, ar gyfer mordaith ar y cwch cyn y perfformiad gyda rhai o’r cast, fydd yn cychwyn o Pier Caernarfon tua 6.30pm ac yn glanio i ddechrau’r orymdaith tua 7.15. Tocynnau i hwn hefyd yn £10 a £5
CERDD GREADIGOL O’R GALON !
Bydd Jochen Eisentraut, sy’n enwog fel cyfansoddwr, pianydd jazz a chwareuwr sacsoffon, yn cynnal dosbarthiadau cerdd byrfyfyr yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.
- Un awr fydd hyd y sesiynnau hyn gan gyfarfod yn wythnosol, a’r nôd fydd helpu aelodau’r grwp i wella’u creadigrwydd cerddorol, ac i fod yn fwy rhydd i fynegi eu hunain ar eu hofferyn a chwarae o’r galon!
- Bydd aelodaeth o’r grwpiau yn agored i unrhyw oed a chyrhaeddiad, ac fe wneir pob ymdrech i leoli pawb mewn grwpiau sy’n adlewyrchu cyrhaeddiad cerddorol o tua’r un safon a’i gilydd
Nodyn Bywgraffiadol
Yn Kassel yn yr Almaen y ganed Dr. JOCHEN EISENTRAUT, ac astudiodd ym Mangor gan raddio gydag anrhydedd mewn Seicoleg. Ers 1983, bu’n cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu a ffilmiau, megis Deryn, We are Seven, Talcen Caled, Rownd a Rownd a llawer eraill. Cwblhaodd Jochen ei Ddoethuriaeth ym 2006 ar y pwnc “Hygyrchedd mewn Cerddoriaeth”. Ef yw pianydd y grwp gwych, Acoustique gyda Lleuwen Steffan, a rhyddhawyd yr albwm Cyfnos ganddynt ym 2003. Ym Mehefin, 2007, cymerodd ran yng Ngwyl Jazz Genting ym Malaysia.
Cysylltwch â ni am fwy o fanylion ac am ffurflen gais.
Cerddorfa Gymunedol newydd yng Ngwynedd
Arweinydd Bill Connor
Mae'r Gerddorfa yn cael toriad dros wyliau'r haf ar hyn o bryd. Bydd yr ymarfer nesaf ar Fore Sadwrn ym mis Medi. Dyddiad i'w drefnu.
Croeso o hyd i aelodau newydd!
A fuoch yn chwarae offeryn rywdro gan fod yn aelod o gerddorfa, ond bellach wedi rhoi’r “ffidil yn y to” ?
A hoffech gael cyfle eto?
Os felly, dewch i Galeri, Caernarfon. Cychwynwyd y Gerddorfa yn Ebrill 2007 pryd y daeth rhai o gerddorion gwych y London Mozart Players i roi hwb arbennig i sefydlu'r gerddorfa gymunedol newydd sbon a fyddai'n cyfarfod unwaith y mis, yn arbennig ar gyfer pobl fel chi! Mae'n agored i bawb sy’n dymuno dod â’u hofferynnau i chwarae cerddoriaeth yn amrywio o’r clasurol i fiwsig y ffilm, yn arbennig i ddenu rhai fu’n derbyn gwersi cerddorol yn yr ysgol ond sydd heb gael cyfle i barhau a’r grefft o chwarae mewn cerddorfa.
Arweinydd : Bill Connor
Bu Bill Connor yn gweithio fel cyfansoddwr ac arweinydd gyda cherddorfeydd megis yr Halle, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y Goldberg Ensemble, Manchester Camerata. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer dros 300 o ffilmiau a rhaglenni teledu. Ef yw arweinydd Cerddorfa Ieuenctid Gwynedd a Môn, ac mae’n adnabyddus iawn yn rhyngwladol am ei waith gyda phobl ifanc .
Pris : £5 yr ymarfer
|